Fy mhrofiad ~ Megan Griffiths
Mae fy mhrofiad gyda ARFOR dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod werthfawr. Mae wedi fy ngalluogi i ehangu fy sgiliau mewn ffyrdd amrywiol a chael cyfleoedd unigryw tu hwnt. Mae’r gefnogaeth rwyf wedi derbyn wedi bod yn wych er mwyn ehangu fy nealltwriaeth o fyw yn lleol.
Dechreuais gan gymryd rhan yn yr elfen mentro mewn cohort newyddiaduraeth Llwyddo’n Lleol dechrau llynedd. Cefais gyfle i archwilio fy ngallu o fewn y maes, cael profiad o ysgrifennu ar wefannau bro, a chael cyngor ac adborth gan bobl broffesiynol yn y maes. Sylweddolais ar y llwybrau amrywiol i mewn i’r maes a’r ffyrdd gwahanol o weithio o fewn y sector. Credaf fod y cyfleoedd o fewn y maes i gyd mor werthfawr, ac mae cyflwyno’r wybodaeth i bobl ifanc yn ffordd wych o gynnal diddordeb a chodi ymwybyddiaeth.
O fewn y cwrs, roedd cyfleoedd ehangach i fedru gwneud gwaith maes unigol. Cefais y cyfle i fynd i ddigwyddiad elfen mentro arall, ac ysgrifennu erthygl o ganlyniad i nodiadau byw ac ymchwil cynradd.
Wedi i’r cwrs ddod i ben, cefais y cyfle i ysgrifennu erthyglau i Fwrlwm ARFOR. Roedd creu'r cysylltiad yma yn rhan arbennig o’r cwrs gan fy mod wedi cael y cyfle i arbrofi ym mhellach yn y maes o ganlyniad. Mae ysgrifennu’r erthyglau wedi rhoi'r cyfle i mi archwilio pynciau oedd yn fy niddori i yn fy ardal leol, i geisio denu cynulleidfaoedd ifanc eraill. Wrth eu hysgrifennu, cefais gyfleoedd i siarad â phobl mewn pob math o feysydd megis theatr a cherddoriaeth a chreu cysylltiad pellach. Roedd y profiad yma yn hynod werthfawr i mi.
Wrth fod yn rhan o griw Llanw- Meter yr ifanc llynedd, a chynrychioli Y Deyrnas Unedig yn yr Eidal yn rownd Derfynol Ewrop, cawsom gefnogaeth allweddol gan Llwyddo’n Lleol. Roedd ein gallu i fynychu'r gystadleuaeth diolch iddynt, a chawson y cyfle gwerthfawr o ddysgu am yr ochr farchnata yn ogystal wrth i ni greu cynnwys digidol. Roedd cynnwys yr elfen yma yn rhoi profiadau go iawn i ni o weithio mewn cymaint o feysydd amrywiol, ac yn golygu fod ein taith wedi ei ddogfenni!
Mae ARFOR a Llwyddo’n lleol wedi cefnogi nifer fawr bobl ifanc, ac wedi ysbrydoli llawer. Mae eu cefnogaeth wedi galluogi pobl i arbrofi ac archwilio mewn meysydd sydd yn eu diddori, o fusnes i newyddiaduraeth.