Caffi Ni

Caffi bach cymreig wedi’i leoli ar faes carafannau Wern rhwng Nefyn a Phistyll ar benrhyn Llŷn. Mae golygfeydd godidog o Borthdinllaen â’r machlud haul gora’n y byd!! Mae’r caffi yn fusnes teuluol, gyda pob dim yn cael ei goginio gyda chynhwysion ffres lleol ble bo’r modd. Mae yma naws cartrefol braf a’r prif nôd yw i bawb sy’n ymweld ymlacio a mwynhau’r awyrgylch. Rydym yn paratoi prydau poeth ac oer, gyda’r peis cartref yn un o’r ffefryna gan bawb. ❤️

Wern, Pwllheli LL53 6LW

Previous
Previous

Llesiant Redloxx

Next
Next

DCTriathlon