Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd

Dyma gyflwyno Gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd — yn cydnabod a dathlu’r busnesau sydd ar flaen y gâd gyda’u defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd ac Ynys Môn. Boed hynny’n siop pentref gyda gweithlu sy’n dysgu Cymraeg er mwyn cyfathrebu gyda’u cwsmeriaid; parlwr harddwch sy’n marchnata’u hunain yn ddwyieithog ar draws eu cyfryngau cymdeithasol neu’n gaffi sy’n annog y gymuned i ddod at ei gilydd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Y categorïau:

Brand mwyaf Cymraeg y byd
Logo, is-bennawd, arwyddion neu ffenestr siop sydd wedi dal eich dychymyg yn y Gymraeg.

Defnydd cyfryngau cymdeithasol mwyaf Cymraeg y byd
Ar gyfer y busnesau sy’n marchnata’u hunain ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg — boed hynny’n dipyn bach neu’n gwbl ddwyieithog.

Staff mwyaf Cymraeg y byd
Ar gyfer y tîm sy’n dathlu’r iaith ar draws pob gallu a thafodiaith — yn gwella’r berthynas gyda’u cwsmeriaid, o ganlyniad.

Cynnyrch mwyaf Cymraeg y byd
Ar gyfer y busnes sy’n gwerthu, creu neu ddarparu cynnyrch hollol Gymraeg.

Gofod mwyaf Cymraeg y byd
Ble mae croeso cynnes Cymraeg i’w deimlo cyn gynted ag y byddwch yn camu dros y trothwy.

Busnes mwyaf Cymraeg y byd
Ar gyfer y busnes sy’n ystyried y Gymraeg yn rhan annatod o’i hunaniaeth — ar draws y brandio, marchnata, pobl a gofod.

Unigolyn mwyaf Cymraeg y byd
Yn cydnabod rhywun sy’n dysgu neu ddathlu’r iaith yn y gweithle — ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.

Dyfarnu

Bydd panel arbenigol Bwrlwm ARFOR yn dyfarnu a chyhoeddi rhestr fer ar gyfer pob categori ar y wefan ac ar ein cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnos yn cychwyn 6ed o Fai. Bydd y cyhoedd wedyn yn cael cyfle i bleidleisio am eu henillwyr a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn noson wobrwyo arbennig ym mis Mehefin 2024 (dyddiad a lleoliad i’w cadarnhau).